Thursday 25 March 2010

Partnership Meeting

The date of the next Communities First Partnership meeting is on Monday 26 April at 4pm at the Trefechan Community Centre.

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

25/03/2010 - Dydd Iau - 7.30 Cymraeg i Oedolion Morgannwg/Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Cinio Pasg gyda Dafydd Du - Dewch lawr i un o fwytai Indiaid gorau Merthyr Tudful, Moksh, ar gyfer pryd o fwyd gyda'r enwog Daf Du (DJ Radio Cymru). Cysylltwch a Shan 07990578407 neu Jamie 01685 722176 Moksh, Pontmorlais, Merthyr Tudful
10/04/2010 - Dydd Sadwrn 10.00-12.00 Menter RCT Disgwyl Disgled - Ydych chi'n disgwyl babi? Ydych chi angen fwy o wybodaeth am: Paratoi ar gyfer babi, Hawliau gwaith menywod beichiog, Dwyieithrwydd yn y cartref, Adnoddau a sefydliadau gwarchod Cymraeg lleol, Materion ariannol teulu ...Dewch i gael disgled o goffi a thrafod ag arbenigwyr Cymraeg! Croeso i bawb! (Yn cynnwys teuluoedd) Cysylltwch â Catrin Reynolds NAWR er mwyn cofrestru eich diddordeb. e-bostiwch: catrinreynolds@menteriaith.org neu ffoniwch 07500 878 289 CYNON VALLEY INDOOR BOWLS CENTRE, HEOL DYFFRYN, ABERPENNAR
10/04/2010 - Dydd Sadwrn - 7.30 Clwb Cymraeg Abercwmboi/Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Noson Werin - Cynhelir gwibdaith i noson werin yn Y Cresselly Arms, Aberpennar. Fe fydd bws yn gadael o Westy'r Castell am 7yh. Pris mynediad £3 (bws £5) Nifer cyfyngedig o lefydd felly cysylltwch a jamie@merthyrtudful.com i arbed lle. Y Cresselly Arms, Aberpennar
23/04/2010 - Dydd Gwener - 7.30 Eisteddfod Genedlaethol/Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Gwibdaith Dafydd Iwan - Fe fyddwn yn rhedeg taith draw i Glwb Rygbi Glyn Ebwy ar gyfer noson gyda Dafydd Iwan ac eraill. Cynhelir y noson er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010. Bydd bws yn gadael Gwesty'r Imperial, Pontmorlais am 7yh. Pris £15 Rhaid archebu lle Clwb Rygbi Glyn Ebwy
Am unrhyw fanylion pellach mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddfa ar 01685 722176